Head of Oxfam Cymru (0696)

Oxfam is a global movement of people working together to end the injustice of poverty.

Do you have strong influencing and advocacy skills and an understanding of Welsh political and economic structures?

Do you have knowledge of UK and devolved social and economic policy as it impacts on poverty and social exclusion in Wales and the UK?

Do you have leadership skills with strong people-centered management expertise?

If the answer is yes, then we would like to hear from you.

The Role

Oxfam GB is looking for a new Head of Oxfam Cymru to lead overall influencing and communications strategy, policy development and approach to risk management in Wales.

 

This role will be responsible for developing a clear vision and plan for how Oxfam Cymru can help achieve Oxfam’s domestic and international objectives, how change can best be achieved in Wales and how action in Wales can contribute to global change.

The role will be responsible for shaping and leading influencing and communications work that challenge poverty in Wales, across the UK and globally. It will be responsible for keeping well informed of developments in the external context relevant to Oxfam’s work in Wales and seeking to make effective use of opportunities in this changing context.

The Head of Oxfam Cymru will also be responsible for developing and maintaining strategic alliances and partnerships with key actors in Wales, including civil society networks, public and private sector organisations and the media; and for ensuring gender justice and a commitment to anti-racism visibly underpins all aspects of Oxfam Cymru’s work.

The Head of Oxfam Cymru will also be responsible for stewarding Oxfam GB’s commitment to the Welsh language.

Please note though this is a full-time position but we are happy to consider applicants for part-time work i.e. 4 days per week.

What we are looking for

We’re looking for a candidate who cares about Oxfam’s mission to end poverty and is personally aligned to the values of empowerment, accountability and inclusion and our feminist principles.

Our next Head of Oxfam Cymru will have:

  • Proven leadership skills with strong people-centered management expertise and experience of operating in complex, multi-disciplinary teams
  • Proven influencing and advocacy skills, and an understanding of Welsh political and economic structures as relevant to Oxfam’s work, including non-government organisations and the voluntary sector.
  • Strong understanding of international poverty issues and how these relate to a UK and Welsh context.
  • Knowledge of UK and devolved social and economic policy as it impacts on poverty and social exclusion in Wales and the UK
  • Strong leadership skills with people-centered management expertise
  • Understanding of feminist leadership principles and ability to apply them in day-to-day behaviour and work
  • An ability to practice accountability to those who experience oppression as a result of their identities, such as their gender, race/ethnicity, disability, class, or LGBTQIA identity
  • Competence in written and spoken Welsh or the ability and commitment to learn.

We offer

This role will give you an opportunity to lead Oxfam’s work tackling poverty and injustice work in Wales and beyond, working with a group of passionate people that are specialists in their fields. Oxfam offers fair pay and competitive benefits package.

Flexfam

We believe flexible working is key to building the Oxfam of the future, so we’re open to talking through the type of flexible arrangements which might work for you.

Our values and commitment to safeguarding

Oxfam is committed to preventing any type of unwanted behaviour at work including sexual harassment, exploitation and abuse, lack of integrity and financial misconduct; and committed to promoting the welfare of children, young people, adults and beneficiaries with whom Oxfam GB engages. Oxfam expects all staff and volunteers to share this commitment through our code of conduct. We place a high priority on ensuring that only those who share and demonstrate our values are recruited to work for us.

The post holder will undertake the appropriate level of training and is responsible for ensuring that they understand and work within the safeguarding policies of the organisation.

 

All offers of employment will be subject to satisfactory references and appropriate screening checks, which can include criminal records and terrorism finance checks. Oxfam GB also participates in the Inter Agency Misconduct Disclosure Scheme.  In line with this Scheme, we will request information from job applicants’ previous employers about any findings of sexual exploitation, sexual abuse and/or sexual harassment during employment, or incidents under investigation when the applicant left employment. By submitting an application, the job applicant confirms his/her understanding of these recruitment procedures.

We are committed to ensuring diversity and gender equality within our organisation and encourage applicants from diverse backgrounds to apply.

How to apply 

 

As part of your online application, please upload your up to date CV and a covering letter explaining your suitability against the essential criteria in the job profile.  

About us

Oxfam is a global community who believe poverty isn’t inevitable. It’s an injustice that can be overcome. We are shop volunteers, women’s right activists, marathon runners, aid workers, coffee farmers, street fundraisers, goat herders, policy experts, campaigners, water engineers and more. And we won’t stop until everyone can live life without poverty for good.

Oxfam GB is a member of international confederation of 19 organisations working together with partners and local communities in the areas of humanitarian, development and campaigning, in more than 90 countries. 

Mae Oxfam yn fudiad byd-eang o bobl sy’n cydweithio i ddod ag anghyfiawnder tlodi i ben.

 

A oes gennych sgiliau dylanwadu ac eirioli cryf a dealltwriaeth o strwythurau gwleidyddol ac economaidd Cymru?

A oes gennych wybodaeth am bolisi cymdeithasol ac economaidd y DU ac ar lefel ddatganoledig o ran y modd y mae’n effeithio ar dlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru a’r DU?

A oes gennych sgiliau arwain ac arbenigedd rheoli cadarn sy’n canolbwyntio ar bobl?

 

Y Rôl:

Mae Oxfam GB yn chwilio am bennaeth newydd i Oxfam Cymru i arwain y strategaeth ddylanwadu a chyfathrebu gyffredinol, y gwaith o ddatblygu polisi, a’r dull o reoli risgiau yng Nghymru.

 

Bydd y rôl hon yn gyfrifol am ddatblygu gweledigaeth a chynllun clir o ran y modd y gall Oxfam Cymru helpu i gyflawni amcanion domestig a rhyngwladol Oxfam, y modd y gellir cyflawni newid orau yng Nghymru, a’r modd y gall gweithredu yng Nghymru gyfrannu at newid byd-eang.

Bydd y rôl yn gyfrifol am lunio ac arwain y gwaith o ddylanwadu a chyfathrebu sy’n herio tlodi yng Nghymru, ledled y DU ac yn fyd-eang. Bydd yn gyfrifol am sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y cyd-destun allanol sy’n berthnasol i waith Oxfam yng Nghymru, gan geisio defnyddio cyfleoedd mewn modd effeithiol yn y cyd-destun newidiol hwn.

Bydd Pennaeth Oxfam Cymru hefyd yn gyfrifol am feithrin a chynnal cynghreiriau a phartneriaethau strategol â mudiadau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys rhwydweithiau cymdeithas sifil, sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat a’r cyfryngau, ac am sicrhau bod cyfiawnder rhywedd ac ymrwymiad i wrth-hiliaeth yn sail amlwg i’r holl agweddau ar waith Oxfam Cymru.

Bydd Pennaeth Oxfam Cymru hefyd yn gyfrifol am oruchwylio ymrwymiad Oxfam GB i’r Gymraeg.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:

Bydd ein Pennaeth Oxfam Cymru nesaf yn meddu ar y rhinweddau canlynol:

  • Sgiliau arwain profedig ac arbenigedd rheoli cadarn sy’n canolbwyntio ar bobl, a phrofiad o weithio mewn timau amlddisgyblaethol, cymhleth
  • Sgiliau dylanwadu ac eirioli profedig, a dealltwriaeth o strwythurau gwleidyddol ac economaidd Cymru a’r modd y maent yn berthnasol i waith Oxfam, gan gynnwys cyrff anllywodraethol a’r sector gwirfoddol
  • Dealltwriaeth gadarn o faterion tlodi rhyngwladol a’r modd y maent yn berthnasol i gyd-destun y DU a Chymru
  • Gwybodaeth am bolisi cymdeithasol ac economaidd y DU ac ar lefel ddatganoledig o ran y modd y mae’n effeithio ar dlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru a’r DU
  • Sgiliau arwain cadarn ac arbenigedd rheoli sy’n canolbwyntio ar bobl
  • Dealltwriaeth o egwyddorion arweinyddiaeth ffeministaidd a’r gallu i’w rhoi ar waith mewn ymddygiad o ddydd i ddydd ac yn y gwaith
  • Y gallu i ymarfer atebolrwydd yn achos y rheiny sy’n profi gormes o ganlyniad i’w hunaniaethau, megis eu rhywedd, eu hil/ethnigrwydd, eu hanabledd, eu dosbarth neu eu hunaniaeth LGBTQIA
  • Cymhwysedd mewn Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, neu’r gallu a’r ymrwymiad i ddysgu

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:

 

Bydd y rôl hon yn rhoi cyfle i chi arwain gwaith Oxfam o fynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder yng Nghymru a thu hwnt, a byddwch yn gweithio gyda grŵp o bobl angerddol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Mae Oxfam yn cynnig cyflog teg a phecyn buddion cystadleuol.

 

Ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i ddiogelu:

 

Mae Oxfam yn ymrwymedig i atal unrhyw fath o ymddygiad dieisiau yn y gwaith, gan gynnwys aflonyddwch, ecsbloetio a chamdriniaeth rywiol, diffyg didwylledd a chamymddygiad ariannol; ac yn ymrwymedig i hybu lles plant, pobl ifanc ac oedolion a buddiolwyr y mae Oxfam GB yn ymwneud â nhw. Mae Oxfam yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr rannu’r ymrwymiad hwn trwy ddilyn ein cod ymddygiad. Un o’n blaenoriaethau yw sicrhau mai dim ond y rheiny sy’n rhannu ac yn amlygu ein gwerthoedd sy’n cael eu recriwtio i weithio i ni.

Bydd deiliad y swydd yn ymgymryd â’r lefel briodol o hyfforddiant, ac yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn deall polisïau diogelu y sefydliad ac yn gweithio’n unol â nhw.

 

Bydd pob swydd yn cael ei chynnig yn amodol ar eirdaon boddhaol ac ar gynnal archwiliadau sgrinio priodol, a allai gynnwys gwirio cofnodion troseddol a chyllid sy’n ymwneud â therfysgaeth. Mae Oxfam GB hefyd yn cymryd rhan yn y Cynllun Rhyngasiantaethol i Ddatgelu Camymddygiad. Yn unol â’r cynllun hwn, byddwn yn gwneud cais am wybodaeth gan gyflogwyr blaenorol yr ymgeiswyr ynghylch unrhyw ganfyddiadau o ecsbloetio rhywiol, camdriniaeth rywiol a/neu aflonyddwch rhywiol yn ystod eu cyflogaeth, neu achosion a oedd yn destun ymchwiliad pan adawodd yr ymgeisydd ei swydd. Wrth gyflwyno cais, mae’r ymgeisydd am y swydd yn cadarnhau ei fod yn deall y gweithdrefnau recriwtio hyn.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau cydraddoldeb o ran amrywiaeth a rhywedd yn ein sefydliad, ac yn annog ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol i wneud cais.

 

Gwneud cais:

Yn rhan o’ch cais ar-lein, lanlwythwch eich CV diweddaraf a llythyr eglurhaol sy’n esbonio eich addasrwydd yn unol â’r meini prawf hanfodol yn y proffil swydd.

Gwybodaeth Amdanom Ni

Mae Oxfam yn gymuned fyd-eang sy’n credu nad yw tlodi’n anochel. Mae’n anghyfiawnder y gellir ei oresgyn. Rydym yn wirfoddolwyr mewn siopau, yn weithredwyr dros hawliau menywod, yn rhedwyr marathonau, yn weithwyr cymorth, yn ffermwyr coffi, yn bobl sy’n codi arian ar y stryd, yn fugeiliaid geifr, yn arbenigwyr polisi, yn ymgyrchwyr, yn beirianwyr dŵr a rhagor. Ac ni fyddwn yn rhoi’r gorau iddi nes y bydd pawb yn gallu byw bywyd heb dlodi am byth.

Mae Oxfam GB yn aelod o gydffederasiwn rhyngwladol o 19 o sefydliadau sy’n cydweithio â phartneriaid a chymunedau lleol ym meysydd dyngarwch, datblygu ac ymgyrchu, a hynny mewn dros 90 o wledydd. 

 

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (ngotenders.net) you saw this job posting.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *